Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 – Senedd
a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 5 Tachwedd 2025
Amser:
09.17 -
12.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/15700
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Andrew RT Davies AS (Cadeirydd) Hannah Blythyn AS Alun Davies AS Luke Fletcher AS Samuel Kurtz AS Jenny Rathbone AS |
|
Tystion: |
Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg Helen John, Llywodraeth Cymru Robbie Thomas, Llywodraeth Cymru Dylan Hughes, Llywodraeth Cymru Hannah Starkey, Llywodraeth Cymru Fiona Campbell, Association of Scotland's Self-Caterers Marc Crothall, Scottish Tourism Alliance Joseph Dooher, Llywodraeth Cymru Rebecca Godfrey, Awdurdod Cyllid Cymru Anthony Pritchard, Awdurdod Cyllid Cymru |
|
Staff y Pwyllgor: |
Robert Donovan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Nicole Haylor-Mott (Dirprwy Glerc) Claire Butterworth (Cynghorydd Cyfreithiol) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) Ben Stokes (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1.2 Roedd yr holl Aelodau yn bresennol ar ddechrau'r cyfarfod, fodd bynnag, nododd Alun Davies AS y byddai angen iddo adael ar ddiwedd eitem 3.
1.3 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Samuel Kurtz AS fuddiant.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg (Llywodraeth Cymru), gyda chefnogaeth pedwar swyddog.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Awdurdod Cyllid Cymru, a gynrychiolir gan Rebecca Godfrey (Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro), Anthony Pritchard (Prif Swyddog Digidol), a Joseph Dooher (Pennaeth Ardoll Ymwelwyr a Chyflawni Cofrestru Cenedlaethol).
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Marc Crothall MBE (Prif Weithredwr, Cynghrair Twristiaeth yr Alban) a
Fiona Campbell, (Prif Swyddog Gweithredol, Cymdeithas Hunanddarparwyr yr Alban).
5.1 Nododd y Pwyllgor y papurau, a thrafododd sawl llythyr mewn perthynas â gwaith y Pwyllgor ar ddyfodol dur Cymru.
5.2 Mewn perthynas ag eitem 5.4, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach, Llywodraeth y DU, gyda gwahoddiad i roi tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor ar y datblygiadau yn niwydiant dur Cymru.
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod eitemau 2,3 a 4.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Marc Crothall MBE (Prif Weithredwr, Cynghrair Twristiaeth yr Alban) a Fiona Campbell (Prif Swyddog Gweithredol, Cymdeithas Hunanarlwywyr yr Alban) i ofyn am ragor o wybodaeth am dystiolaeth a gododd yn ystod eitem 4.